Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Chwefror 2019

Amser: 09.00 - 10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5287


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Deryk Cundy, SOSPPAN

John Prosser, SOSPPAN

Louvain Roberts, SOSPPAN

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-862 - Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ddarparu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebydd;

·         gofyn iddi ddarparu asesiad o ddigonolrwydd dyletswyddau cyfreithiol cyfredol mewn perthynas ag atal a mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion; a

·         gofyn am linell amser ar gyfer pryd y bydd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwrth-fwlio ar gael.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-863 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb; ac

 

</AI4>

<AI5>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI5>

<AI6>

3.1   P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog cyn ystyried camau pellach.

</AI6>

<AI7>

3.2   P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.

</AI7>

<AI8>

3.3   P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.

 

</AI8>

<AI9>

3.4   P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chytunodd i roi cyfle i’r bobl sydd wedi cysylltu â'r Pwyllgor ynglŷn â’r mater hwn yn flaenorol roi eu barn, ac i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am eu barn ar y cynlluniau a amlinellwyd gan y Bwrdd Iechyd a dyfodol gwasanaethau iechyd i Sir Benfro.

</AI9>

<AI10>

3.5   P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas ag adolygiad o fuddiannau'r cynllun a’r fframwaith taliadau disgresiwn cyn ystyried y ddeiseb ymhellach, ac i ysgrifennu eto yn ystod y Pasg os na dderbynnir hwn.

</AI10>

<AI11>

3.6   P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i ystyried y ddeiseb eto yn dilyn dadl y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 6 Mawrth 2019.

</AI11>

<AI12>

3.7   P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:

·         a yw hi o'r farn bod y gwahaniaeth rhwng trwyddedu a'r gyfundrefn reoleiddiol yng Nghymru a Lloegr yn peri risg i les anifeiliaid yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach anifeiliaid anwes egsotig; ac

·         a yw'n bwriadu ystyried rhinweddau mabwysiadu rhai neu bob un o'r gwahanol newidiadau polisi a wnaed yn Lloegr gan y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) 2018.

</AI12>

<AI13>

3.8   P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i:

·         ofyn am farn y grŵp ymgyrchu ar y datblygiadau diweddaraf cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddarparu amserlenni dangosol ar gyfer cynnal yr ailasesiad.

 

 

 

</AI13>

<AI14>

3.9   P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail mai ychydig o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd, yn wyneb y ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ar 15 Ionawr 2019 a bod y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau pwnc eraill wedi craffu arni.

</AI14>

<AI15>

3.10 P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Yn sgil datblygiadau diweddar sy'n dangos nad yw'r cynnig i adeiladu carchar newydd ym Maglan yn mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

</AI15>

<AI16>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5

Derbyniwyd y cynnig.

</AI16>

<AI17>

5       Trafod yr adroddiadau drafft

</AI17>

<AI18>

5.1   Adroddiad drafft - P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad interim o'r dystiolaeth a gafwyd cyn gynted â phosibl ac i wahodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl.

</AI18>

<AI19>

5.2   Adroddiad drafft - P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r adroddiad drafft.

</AI19>

<AI20>

6       Sesiwn dystiolaeth - P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deryk Cundy, John Prosser a Louvain Roberts o SOSPPAN.

</AI20>

<AI21>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

</AI21>

<AI22>

8       Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am ymateb i rai o'r materion a godwyd.

</AI22>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>